Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 17 Medi 2018
Amser: 14.30 - 15.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5004
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AC (Cadeirydd) Dai Lloyd AC David Melding AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Cafwyd ymddiheuriadau gan Mandy Jones AC.
Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Ystyriodd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. Nododd y Pwyllgor fod y Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at ymgynghoriad a wnaed, ond nid oes crynodeb o'r ymgynghoriad ar gael. Bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am eglurhad.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb y Llywodraeth a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Nododd y Pwyllgor fod y Llywodraeth yn datgan yn ei hymateb nad oes newid polisi, fodd bynnag, dywed yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, mewn perthynas â rheoliadau 8 a 9, fod y rheoliad wedi cael ei wneud yn fwy caniataol. Bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am eglurhad.
Ystyriodd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. Tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith nad yw'r Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at pam y gwneir yr offeryn yn Saesneg yn unig. Bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am eglurhad.
Trafododd y Pwyllgor y Codau Ymarfer a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad i dynnu sylw at y materion sy'n ymwneud â'r DU yn ymadael â'r UE.
Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad i dynnu sylw at y materion o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.
Ystyriodd y Pwyllgor y Memorandwm Caniatâd Offeryn Statudol ac, o dan yr amgylchiadau, roedd yn fodlon gyda'r dull a fabwysiadwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Llywydd ynghyd â'r llythyr a gafwyd gan y Gweinidog yn gynharach y diwrnod hwnnw (wedi'i gylchredeg mewn copi caled) mewn ymateb i argymhellion y Pwyllgor. Nododd yr aelodau fod y ddadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil wedi'i threfnu ar gyfer y diwrnod canlynol, sef 18 Medi. Cytunodd yr Aelodau pe bai ystyriaeth bellach y Gweinidog o argymhellion y Pwyllgor yn arwain at wneud newidiadau sylweddol i'r Bil, efallai y bydd y Pwyllgor yn dymuno ystyried y Bil ar adeg briodol.
Nododd y Pwyllgor y llythyr at Arweinydd y Tŷ ynglŷn â rheoliadau Atodlen 4 ac ymateb gan Arweinydd y Tŷ a gafwyd yn gynharach y diwrnod hwnnw (wedi'i gylchredeg mewn copi caled).
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Arweinydd y Tŷ.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Arweinydd y Tŷ, a chytunodd i ymateb i Arweinydd y Tŷ maes o law.
Nododd y Pwyllgor ohebiaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am gopi o'r canllawiau cyfatebol unwaith y cânt eu cwblhau.
Nododd y Pwyllgor lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Cytunodd y Pwyllgor i anfon copi o'r Cytundeb Rhyng-Sefydliadol drafft y mae'n ei ddatblygu gyda Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd.
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r dystiolaeth atodol i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.
Nododd y Pwyllgor y papur cynghori gan Gymdeithas Frenhinol Caeredin.
Nododd y Pwyllgor y datganiadau a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
Derbyniwyd y cynnig.
Ystyriodd y Pwyllgor y protocol drafft a chytunodd ar y camau nesaf.
Ystyriodd y Pwyllgor y dull a fabwysiadwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Memoranda Caniatâd Offerynnau Statudol sy'n ymwneud â deddfwriaeth Brexit a chytunodd arno.
Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf.
Ystyriodd y Pwyllgor y crynodeb.
Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.